Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Gorffennaf 2013
Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil Addysg
(Cymru)
1. Ar 1 Gorffennaf 2013, cafodd Bil Llywodraeth, ‘Bil Addysg (Cymru)’, ei gyflwyno yn y Cynulliad.
2. Ar 18 Mehefin 2013, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, er mwyn iddo ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.
3. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, trefnodd y Pwyllgor Busnes amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 22 Tachwedd 2013.
4.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 7
Chwefror 2014, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion
cyffredinol y Bil.